Dyma bentref glan môr go iawn. Wedi’i amgylchynu gan greigiau siâl serth a llethrau llwyni, mae’r pentref poblogaidd hwn yn gorwedd mewn basn cysgodol sy’n edrych dros y traeth tywod a Bae Ceredigion.
Arferai’r Afon Saith lifo’r i’r bae yn y fan hon ond ers iddi gael ei dargyfeirio yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf mae’r afon yn tasgu dros y creigiau fel pistyll i’r dwyrain o’r pentref
Hanes lleol
Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o’r traethau ar hyd arfordir Ceredigion ’roedd Tresaith yn lanfa ar gyfer llongau hwylio bychain drwy gydol y 19eg ganrif. Llosgwyd carreg galch mewn dwy odyn galch yn agos at y traeth.
Roedd y nofelydd Allen Raine yn byw yn Nhresaith.
Pentref sy’n agos i fan croesi y B4333 a’r A487
Llefydd o ddiddordeb
• Distyllfa In The Welsh Wind - jin, wisgi a fineg
• Amgueddfa ddiwydianol Internal Fire Museum of Power
• Datgamalwyr Ceir Tanygroes
• Caffi Emlyn - cartref beirdd Tanygroes
• Tystion Jehofah