Dewiswch eich iaith

tresaith smlDyma bentref glan môr go iawn. Wedi’i amgylchynu gan greigiau siâl serth a llethrau llwyni, mae’r pentref poblogaidd hwn yn gorwedd mewn basn cysgodol sy’n edrych dros y traeth tywod a Bae Ceredigion.
Arferai’r Afon Saith  lifo’r i’r bae yn y fan hon ond ers iddi gael ei  dargyfeirio yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf mae’r afon yn tasgu dros y creigiau fel pistyll  i’r dwyrain o’r pentref

Hanes lleol

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o’r traethau ar hyd arfordir Ceredigion ’roedd Tresaith yn lanfa ar gyfer llongau hwylio bychain drwy gydol y 19eg ganrif. Llosgwyd carreg galch mewn dwy odyn galch yn agos at y traeth.
Roedd y nofelydd Allen Raine yn byw yn Nhresaith.