Hafan

Mae tiriogaeth Plwyf Penbryn yn amrywiol iawn ac mae nodweddion hanesyddol a daearyddol wedi dylanwadu ar ei ffiniau. Y prif bentrefi yn y plwyf yw Brynhoffnant, Glynarthen, Sarnau, Tanygroes a Thresaith. O fewn y plwyf mae nifer o addoldai - Eglwys Mihangel Sant, Capel Penmorfa, Capel Bryn Moriah, Capel Glynarthen, Neuadd y Deyrnas Tystion Jehova. Mae Eglwys Sant Ioan a Chapel Tanygroes wedi eu cau. Tan 2010 roedd dwy ysgol gynradd sef Ysgol Glynarthen ac Ysgol Penmorfa yn gwasanaethu'r plwyf. Erbyn hyn mae ysgol ardal, Ysgol T. Llew Jones ym Mrynhoffnant.
Mae morlin y plwyf yn ymestyn o Benrhip, Llangrannog hyd ochr ddeheuol Traeth Tresaith. Rhwng y ddau bwynt yma, mae dau draeth a ystyrir yn berlau Sir Ceredigion: Traeth Penbryn a Thraeth y Morfa. Mae cyrsiau afonydd a nentydd yn dynode ffiniau mewndirol y plwyf. Wrth y ffin mae Tresaith, Dyffryn Saith, Gogerddan, Tanygroes, Felin Wnda, Felin Brithdir, Cwm Barre, Crug Bach, Nantgoch, Penlan, Brynhoffnant, Dyffryn Hoffnant, Nantymawr, Eisteddfa a Phenrip.
CYNGHORWYR CYMUNED PENBRYNÂ
Delfryn Owens
Caerwyn Owen
Melva Phillips
Jonathan Rees
Gareth Evans
Teifi Davies
Walwyn Jones
Willim Anwyl
Barri Davies
Elen Mathias
Gwyn James
CLERC
Gareth Jones